Gwybodaeth am y Cwmni
Sefydlwyd y cwmni yn 1959 ac mae William Hughes (Peirianneg Sifil) Cyf yn parhau i fod mewn perchnogaeth breifat. Wedi ei leoli yng nghanol Ynys Môn gweithredwn ledled Gogledd Cymru.
Oherwydd ein gwybodaeth helaeth o’n hardal weithredol, gallwn gynnig arbenigedd trwy sicrhau fod daeareg ac amodau tir yn cael eu rhagweld yn gywir o flaen llaw, p’un ai tir meddal neu graig galed neu hyd yn oed dywod rhydd. Bydd materion cymdeithasol sydd yn effeithio ar gleientau neu aelodau o’r trydydd sector yn cael eu trin gyda chydymdeimlad a pharch ac mae ein gwybodaeth o’r gadwyn gyflenwi leol yn caniatau i ni baratoi yn addas.
Oherwydd ein bod yn gwmni teuluol, mae cynnal ein enw da yn hanfodol bwysig i ni. Cymerwn falchder yn ansawdd ein gwaith ac er mwyn sicrhau fod safonau cyson yn cael eu cynnal ‘rydym wedi ein cymeradwyo i BS EN ISO 9001:2008 gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI). Mae hyn yn golygu bod archwiliadau mewnol ac allanol rheolaidd yn cael eu cynnal ond hefyd ein bod wedi ymrwymo i welliant parhaus. Mae ein hymrwymiad i gynnig safon gyson uchel o wasanaeth yn cael ei adlewyrchu yn y lefel uchel o waith a fframweithiau yr ydym yn ei ail-ennill.
Gyda record wych o ran iechyd a diogelwch, ‘rydym yn datblygu ein sustemau yn barhaus ac yn croesawu’r datblygiadau technolegol diweddaraf er mwyn cynnal ein safonnau. Mae ein sustem unwaith eto wedi ei gwirio gan BSI i safon BS OHSAS 18001:2007.
Mae gwarchod ein hamgylchedd yn flaenoriaeth. Mae ein sustem reolaeth wedi ei hachredu i ISO 14001, ac yn sicrhau datblygiad parhaus yn ogystal ag ymrwymiad i ddiogelu ein hamgylchedd gwerthfawr drwy ostwng allyriadau carbon, gwarchod adnoddau naturiol a lleihau gwastraff.
‘Rydym yn credu’n gryf mewn cyflogi pobl yn uniongyrchol ac mae 95% o’r gweithlu yn dod o Ynys Môn a’r gweddill o’r tîr mawr. Mae nifer helaeth o’n gweithwyr wedi bod hefo ni ers amser hir ac felly ‘rydym yn hyderus yn eu gallu a’u cryfderau. Mae hyfforddiant yn bwysig iawn i ni ac mae ein holl weithlu yn dal cardiau CSCS/CPCS addas i’w gwaith. Mae ein uwch reolwyr yn rhai â chymhwyster NEBOSH ac mae pob rheolwr safle wedi derbyn hyfforddiant SMSTS.
Cefnogir ein gwasanaethau gan ein rhestr hirfaith o offer a pheiriannau modern sydd yn golygu fod gennym yr hyblygrwydd i wneud ein gwaith yn ddi-drafferth.