Galluoedd

Yma yn William Hughes (Peirianneg Sifil) Cyf, cynigiwn amrediad llawn o wasanaethau, o adeiladu gwaith peirianneg sifil a phrosiectau isadeiledd mawr i gynnig darpariaeth ar gyfer cleientiau domestig. Cynigiwn wasanaeth cyflawn mewn un lleoliad fydd wedi’i addasu er mwyn cyflawni anghenion penodol ein cwsmeriaid.

Drwy ddefnyddio ein offer modern ein hunain, ‘rydym yn gwneud gwaith symud tir ac isadeiledd sylweddol mewn ardaloedd trefol ac yng nghefn gwlad. ‘Rydym yn gyfarwydd â thyllu mewn craig galed a thir meddal, ansad, ‘rydym yn gallu cyflawni gwaith mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd daearegol gan sicrhau’r safon uchaf o ddiogelwch. Mae ein manylder a’n cywirdeb yn sicrhau bodlonrwydd ein cleientiaid yn ystod y broses adeiladu ac hefyd yn lleihau gofynion cynnal a chadw tymor hir.

Oherwydd ein lleoliad daearyddol, mae’n anochel ein bod yn gyfarwydd â gweithio mewn lleoliadau arfordirol, yn aml yn cyflawni gwaith mewn ardaloedd amgylcheddol bregus. ‘Rydym yn gyfarwydd â rheoli’r peryglon sy’n bodoli wrth weithio ger ardaloedd a gaiff eu heffeithio gan y llanw ac hefyd o weithio mewn tir ansad neu mewn creigiau caled. Oherwydd bod y cwmni wedi ei wreiddio ym maes traddodiadol chwythu creigiau gyda ffrwydron, erbyn hyn mae technegau modern wedi eu mabwysiadu, mae hyn a’n gwybodaeth eang am Ogledd Cymru yn sicrhau ein bod yn gallu paratoi’n addas a delio’n effeithiol ag ardaloedd o dir creigiog.

Mae ein profiad o weithio mewn afonydd yn cynnwys adeiladu coredau i hwyluso ymfudiad pysgod, coredau er mwyn cynhyrchu trydan, gosod sgriniau sbwriel a drysau llanw, adeiladu arllwysfeydd, newid llwybr afonydd a chreu cynefinoedd. Mae gennym wybodaeth eang am ddargyfeirio llif dŵr a dulliau rheoli llif a hefyd am reoliadau amgylcheddol ac ymarfer gorau. Mae ein strategaeth ‘gwneud yn iawn y tro cyntaf’ yn holl-bwysig er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus bob tro.

Mae ein hadnoddau, sef ein gweithlu, offer a pheiriannau yn gymwys o ran hyfforddiant, tystysgrifau a thechnoleg i weithio’n effeithiol a diogel ar lonydd a phriffyrdd. Oherwydd ein perthynas tymor hir gyda chwareli a chyflenwyr lleol, ‘rydym yn hyderus yn safon y cynhyrchion a ddefnyddiwn a dibynadwyedd ein cyflenwyr. Mae ein strategaeth ‘cyflawni’r gwaith yn iawn y tro cyntaf’ yn sicrhau bodlonrwydd cleientiau ac yn cael gwared o’r anhwylustod a achosir drwy orfod mynd yn ôl.
Yn ogystal â hyn, mae ein hanes o ddelio â’r cyhoedd yn wych gyda’r gweithwyr yn cael eu canmol yn aml am y ffordd y maent yn delio â’r cyhoedd ac yn mynd o gwmpas eu gwaith. Ar brosiectau lonydd a phriffyrdd ble mae cysylltiad â’r cyhoedd yn anochel, mae ein pwyslais ar ddwyieithrwydd yn sicrhau fod y cymunedau’n gallu derbyn gwybodaeth mewn iaith o’u dewis.

   

Gyda phrofiad helaeth o adeiladu pontydd ar gyfer lonydd, cerddwyr, trennau a beicio dros lonydd, afonydd a phantiau dwfn, mae’r wybodaeth gennym i gwblhau gwaith yn llwyddiannus ac effeithlon heb effeithio ar ddiogelwch. Mae ein profiad helaeth o adeiladu strwythurau concrid wedi eu hatgyfnerthu ar y safle yn sylweddol ac mae hynny yn elfen bwysig mewn llawer o brosiectau adeiladu pontydd.

 

Yn dilyn codi waliau ataliol mewn sawl lleoliad, o waliau môr mewn lleoliadau arfordirol i waith sefydlogi ar gyfer slyri mewn hen chwareli llechi , ‘rydym yn gymwys i adeiladu waliau concrid, waliau concrid wedi eu hangori, waliau bocsiau wedi eu hatgyfnerthu a hefyd waith angori sustemau gabions.

Mae gennym gytundebau tymor â dwy o’r prif ffynhonellau ynni adnewyddol yng Ngogledd Cymru sef Gorsafoedd Pwer Dinorwig a Ffestiniog, cyflenwyr sylweddol o drydan-hydro, ‘rydym yn gyfarwydd â gweithio mewn safleoedd sydd wedi’u rheoleiddio’n llym ac o gydymffurfio â threfniadau diogelwch caeth. Rydym hefyd wedi adeiladu cored mewn ardal fynyddig yn Nolgarrog yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Gallwn gwblhau gwaith o werth hyd ar £5miliwn, ac ‘rydym yn ymfalchio yn ein enw da am fod yn un o brif gwmniau adeiladu Gogledd Cymru ym maes pibelli a gweithfeydd trin dwr glân a gwastraff. Gyda phrofiad o gyd-weithio’n agos â Dwr Cymru ers eu dechreuad, ‘rydym yn cynnig gwasanaeth o safon o ran dulliau adeiladu, atebion i broblemau adeiladu ac arbennigedd ar y safle. Mae ein cymwysterau yn cynnwys gwaith concrid strwythurol, tanciau storm, pibelli concrid, plastig a dur, adeiladau fframiau dur, lonydd a thirlunio.