Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
Ein nod yma yn William Hughes yw cynnig gwasanaeth o safon sydd yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid mewn amgylchedd saff a chynaliadwy. Byddwn bob amser yn ceisio ymgysylltu â’r gymuned fydd yn cael ei heffeithio oherwydd ein gwaith gan gynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog iddynt. Pan yn bosib, cynigiwn gefnogaeth i’r gymuned er mwyn gadael etifeddiaeth barhaol o fewn y cymunedau hynny.
Enw da
Dros yr hanner canrif ddiwethaf, ‘rydym wedi ennill enw da am ansawdd a dibynadwyedd a hynny wedi ei gydnabod mewn perthnasau tymor hir gyda llawer o’n cleientiaid. ‘Rydym yn cael ein cydnabod fel cwmni gonest a didwyll a diffuant ac ‘rydym yn awyddus i gadw ein enw da. ‘Rydym yn teimlo’n angerddol am ein gwaith ac wedi’n ymrwymo i gynnig y gwerth gorau ym mhob elfen ohono trwy gyd-weithio â holl randdeiliaid ein prosiectau.
Hyfforddi
‘Rydym yn falch o’n record o gynnig cyfleoedd i bobl ifanc trwy hyfforddiant. Mae llawer o bobl ifanc wedi cael eu hyffoddi ac wedi cael cyfle i wella’i cymwysterau gyda’r cwmni ac ‘rydym yn falch o’n trosiant isel o staff sy’n cadarnhau fod ein gweithwyr yn cyrraedd eu nôd personnol.
Dwy-ieithrwydd
Mae ein dwyieithrwydd yn amlwg ym mhob agwedd o weithgareddau’r cwmni - o’r cysylltiad cyntaf gyda gwefan y cwmni neu ar y ffon,cysylltiad wyneb yn wyneb neu ysgrifenedig, ac yn holl ddeunydd marchnata’r cwmni Mae ein diwylliant a’n hetifeddiaeth yn holl-bwysig i ni ac mae gwarchod ein iaith a sicrhau ei pharhâd ym myd busnes yn flaenoriaeth. Sicrhawn fod pawb sydd yn cysylltu â ni yn gallu gwneud hynny mewn iaith o’u dewis ac o’r herwydd ‘rydym wedi cynrychioli cleientiau adnabyddus mewn cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau.
Rhoddion Elusenol
‘Rydym yn falch o gefnogi ein cymunedau lleol ac achosion sy’n agos at ein calonnau trwy roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau ble ‘rydym yn byw ac yn gweithio. Byddwn yn rhoi cyfraniadau ariannol at achosion da ac yn cyfrannu adnoddau i gefnogi gwahanol elusennau a digwyddiadau.
Yr Amgylchedd
Mae diogelu ein amgylchedd yn flaenoriaeth.Gan ein bod wedi ein achredu i ISO 14001, mae ein cyfundrefn reoli yn sicrhau datblygiad parhaol ac ymrwymiad i warchod ein amgylchedd gwerthfawr trwy leihau allyriadau carbon, gwarchod adnoddau naturiol a lleihau gwastraff.