Croeso i wefan William Hughes (Peirianneg Sifil) Cyf.
Mae WILLIAM HUGHES yn un o’r cwmniau peirianneg sifil hynaf yng Ngogledd Cymru, yn cyflenwi amrediad eang o alluoedd i gleientiaid o’r sector gyhoeddus a phreifat.
Gan ein bod yn hynod brofiadol yn y mwyafrif o agweddau’r diwydiant, gallwn gynnig dewis llawn o wasanaethau, o adeiladu gweithfeydd trin carthion mawr trwy gytundebau fframwaith i brosiectau unigol i ateb gofynion unigryw neu ddatrys problemau. Mae ein rhestr o alluoedd yn cynnwys cloddio tir, creu isadeiledd, amddiffyn yr arfordir, gwaith afonydd, lonydd a phriffyrdd, waliau cynhaliol, ynni adnewyddol a gwasanaethau cyhoeddus sy’n cynnwys pibelli, safleoedd trin dŵr glan a charthffosiaeth.
‘Rydym yn gallu darparu gwasanaeth unigol ac atebion personol sy’n cyd-fynd yn berffaith ag union anghenion y cwsmer. Gyda sustemau rheolaeth wedi eu cymeradwyo i BS EN 45001, BS EN 14001 a BS EN 9001, byddwn yn sicrhau fod safonau iechyd, diogelwch ac ansawdd yn gyson uchel.
‘Rydym yn gyfarwydd â gweithio mewn gwahanol leoliadau ac amgylcheddau ardaloedd poblog ac ardaloedd mynyddig ac unig, mewn creigiau caled neu dir ansefydlog mewn lleoliadau arfordirol. Mae’r gallu a’r profiad gennym i baratoi a chyflawni prosiectau yn effeithiol drwy’r rhanbarth cyfan.
>>> mwy
Cysylltu
William Hughes (Peirianneg Sifil) Cyf, Swyddfeydd WH, Bodffordd, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7DZ.
Ffôn: (01248) 750193 Ffacs: (01248) 723709 E-bost: post@williamhughes.com