Cefndir y prosiect

Cafodd lefel dŵr Llyn Bran, a oedd unwaith yn lyn naturiol, ei godi ym 1899 gan argae concrit er mmwyn darparu dŵr i Ysbyty yn Ninbych. Caeodd yr ysbyty ym 1995 a daeth Llyn Bran yn ddiangen ar gyfer darparu dŵr yfed. Nodwyd Llyn Bran fel safle iawndal am golli cynefin o ganlyniad i gynllun arall ar lyn cyfagos gan Ddŵr Cymru.

Dyddiad

2023

Gwerth

£1.1m

Gan nad oedd trac mynediad ffurfiol i’r argae, a bod y tir o amgylch wedi’i ddynodi’n Gynefin Atodiad 1 oherwydd presenoldeb mawn arbennig, mynediad oedd un o’r prif heriau. Gyda 140 o brofion dyfnder mawn wedi’u cymryd ar hyd llwybr y trac mynediad arfaethedig, a chan weithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, datblygwyd cynllun ar gyfer gosod dros 280m o fatiau cors i’r argae er mwyn osgoi cloddio na thynnu’r haen uchaf o fawn. Roedd hyn yn lleihau’r difrod posibl i’r mawn ac yn gwneud adfer y safle yn llawer haws.

Creu mynediad adeiladu dros dro gan ddefnyddio matiau cors a gostwng lefel y gronfa ddŵr trwy bibellau seiffon a phympiau. Tynnu silt o’r ardal yn union i fyny’r afon o’r argae cyn dymchwel yr argae a chludo’r gwastraff i ffwrdd. Adfer sianel llif y dŵr, gan ddefnyddio mesurau rheoli silt a chreu cynefin newydd i lygod y dŵr ar hyd y lan gan ddefnyddio matiau coir. Dymchwel adeiladau a strwythurau oedd yn gysylltiedig a’u cludo oddi ar y safle. Selio a llenwi pibellau claddedig. Gosod ffensys ymyl ffordd newydd ac amddiffyniad rip-rap o amgylch pen uchaf yr afon o geuffos y B4501.

Bydd terfynu’r argae yn rhoi cyfleoedd bioamrywiaeth sylweddol yn ardaloedd ymylol o amgylch y llyn naturiol yn enwedig gyda’r cysylltiad wedi’i adfer i’r cwrs dŵr. Bydd y llyn a gadwyd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel safle derbyn ar gyfer planhigion dyfrol a drosglwyddwyd o Lyn Anafon.

Ynghylch y cleient

Cwmni cyfleustodau nid-er-elw yw Dŵr Cymru. Mae'r cwmni'n rheoli rhwydwaith helaeth, gan gynnwys dros 26,500 km o brif bibellau dŵr, mwy na 36,000 km o garthffosydd, a 92 o gronfeydd dŵr. Mae'n darparu tua 800 miliwn litr o ddŵr yfed bob dydd ac yn gweithredu bron i 830 o weithfeydd trin dŵr gwastraff.

Rhai prosiectau peirianneg eithriadol eraill

Gallwn gynnig ystod lawn o wasanaethau, o adeiladu gweithfeydd trin carthion mawr drwy gytundebau fframwaith i brosiectau unigol i fodloni gofynion unigryw neu ddatrys problemau.