Ein hanes
Wedi'n sefydlu ym 1959, rydym yn parhau i fod yn gwmni preifat wedi'n lleoli yng nghalon Ynys Môn, gan weithredu ledled Gogledd Cymru. Mae ein gwerthoedd craidd yn amlwg yn ein holl brosiectau ac mae cynnal ein henw da yn hanfodol.

Pam gweithio gyda ni?
Rydym yn cynnig gwasanaeth personol sydd wedi’i addasu i ddiwallu anghenion penodol ein cwsmeriaid.
- Tîm profiadol a gwybodus
- Safonau ansawdd ac iechyd a diogelwch uchel
- Dull rhagweithiol sy’n sicrhau atebion effeithiol
- Adborth gwych bob tro
Ein tîm
Mae ein llwyddiant wedi’i adeiladu ar gryfder a sefydlogrwydd ein pobl. Rydym yn falch o gael tîm medrus iawn o weithwyr yn ein geasanaethu. Mae eu proffesiynoldeb, eu hymroddiad a’u harbenigedd technegol yn sylfaen i’n henw da.
Mae llawer o’n gweithlu wedi bod hefo’r cwmni ers degawdau, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin teyrngarwch, parch a datblygiad parhaus. Gyda’i gilydd, mae ein tîm yn rhannu balchder cyfunol mewn darparu rhagoriaeth a chynnal y gwerthoedd sy’n diffinio ein sefydliad.

Ein cyfrifoldeb fel cwmni
Ein nod yw darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n bodloni anghenion ein cleientiaid o fewn amgylchedd diogel a chynaliadwy. Rydym bob amser yn ymgysylltu â’r cymunedau y mae ein gwaith yn effeithio arnynt ac yn cynnig cyfathrebu dwyieithog. Pryd bynnag y bo modd, rydym yn cynnig cefnogaeth gymunedol er mwyn gadael etifeddiaeth barhaol o fewn y cymunedau hynny.
Ein henw da
Rydym wedi ymrwymo i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ein staff, gan sicrhau bod ein tîm yn parhau i gynnal y safonau uchaf yn y diwydiant, cynnal rhagoriaeth dechnegol ac addasu i anghenion esblygol y diwydiant.
Hyfforddiant
Mae hyfforddiant a datblygiad yn ganolog i’r ffordd rydym yn gweithio. Rydym yn buddsoddi’n barhaus yn ein pobl trwy gyrsiau diwydiant achrededig, hyfforddiant diogelwch, a phrentisiaethau. Mae’r ymrwymiad hwn yn sicrhau bod ein timau’n parhau i fod yn fedrus, yn llawn cymhelliant, ac yn gallu cyflawni prosiectau cymhleth i’r safonau uchaf.
Dwyieithrwydd
Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o bwy ydym ni. Yn William Hughes (Peirianneg Sifil) Cyf, rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar draws ein gweithrediadau — o gyfathrebu yn y gweithle i ymgysylltu â’r gymuned — gan adlewyrchu ein gwreiddiau dwfn yng Ngogledd Cymru a’n parch at ddiwylliant lleol.
Rhoddion elusennol
Rydym yn ymfalchïo mewn cefnogi’r cymunedau lle rydym yn byw ac yn gweithio. Trwy roddion elusennol rheolaidd, nawdd, a menterau lleol, rydym yn cyfrannu at achosion sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Ynys Môn a Gogledd Cymru.
Yr amgylchedd
Mae diogelu ein hamgylchedd yn flaenoriaeth. Wedi’i achredu i ISO 14001, mae ein system reoli yn sicrhau datblygiad parhaus ac ymrwymiad i warchod ein hamgylchoedd gwerthfawr trwy ostwng allyriadau carbon, arbed adnoddau naturiol a lleihau gwastraff.

Ein gwerthoedd
- Ansawdd: Rydym yn ymfalchïo mewn gwneud pethau’n iawn, y tro cyntaf.
- Diogelwch: Ein gweithlu, cleientiaid a’r cyhoedd sy’n dod yn gyntaf ym mhopeth a wnawn.
- Integrity: Rydym yn adeiladu perthnasoedd yn seiliedig ar onestrwydd ac ymddiriedaeth.
- Cynaliadwyedd: Rydym yn gweithio’n gyfrifol i ddiogelu ein hamgylchedd lleol.