Llyn Tegid, Y Bala
Y Bala, Gogledd Cymru • Tach 2021 - Maw 2023

12/12/2023
£314,000
Cyn Adeiladu
Yn ystod y cyfnod cynghori cynnar, fe wnaethom gynorthwyo’r cleient i ddatblygu dyluniadau terfynol trwy drafodaethau ynglyn ag ymarferoldeb a gwybodaeth am gyfyngiadau mewn perthynas â’r lleoliad a dulliau adeiladu. Fe wnaethom gynnal arolwg manwl o’r safle, arolygiad ecolegol a chlirio llystyfiant cyn sefydlu ein safle gwaith.
Adeiladu
Disbyddu yr ardal waith ac adeiladu argae orlifo gyda choncrit wedi ei ffurfio ar y safle. Ffurfio slab amddiffyn i lawr yr afon a gosod cerrig rip-rap. Ffurfio esgynfeydd llyswennod dros yr argae orlifo newydd. Adeiladu styllod argae. Gosod gorchuddion Technocover arbenigol newydd. Dargyfeirio llwybrau troed cyhoeddus a ffurfio llwybrau cerdded/beicio a llwybrau marchogaeth dros dro. Derbyn danfoniad o unedau concrid arbennigol a chloddio ar gyfer y ceuffos newydd. Paratoi arwynebau a chodi, lleoli a chysylltu adrannau’r ceuffos. Paratoi sylfeini ar gyfer waliau cynnal. Gosod blociau wal gynnal a ôl-lenwi mewn adrannau. Gosod ffens bost a rheilen bren. Ail-broffilio a chysylltu trac y goedwig.
Wedi Adeiladu
Er mwyn lleihau aflonyddwch i’r cyhoedd a thimau torri coed y goedwig, fe wnaethom gyflymu ein rhaglen waith a chwblhau’r prosiect o flaen amser gan sicrhau bod y ffordd fynediad wedi ailagor cyn y dyddiad penodedig. Gwaith a wnaed o dan NEC3 Opsiwn C wedi’i gwblhau o fewn y gyllideb.

Gallwn gynnig ystod lawn o wasanaethau, o adeiladu gweithfeydd trin carthion mawr drwy gytundebau fframwaith i brosiectau unigol i fodloni gofynion unigryw neu ddatrys problemau.